Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Committee Room 3

Dyddiad: Dydd Iau, 16 Chwefror 2017

Amser: 09.05 - 14.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
3848


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AC

Siân Gwenllian AC

Bethan Jenkins AC

Rhianon Passmore AC

Jenny Rathbone AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Carl Sargeant AC

Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Llywodraeth Cymru

Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Jonathan Lloyd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dr Stephen Monaghan, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru

Andrew Cross, Cymdeithas Feddygol Prydain

Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Nyrsys

Peter Meredith-Smith, Royal College of Nursing Wales

Lien Watts, The Social Workers Union

Margaret Thomas, Wales TUC

Martin Mansfield, Wales TUC

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Osian Bowyer (Ymchwilydd)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC.

 

1.3.      Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiant perthnasol fel aelodau o undebau:

·         John Griffiths AC;

·         Jenny Rathbone AC;

·         Joyce Watson AC;

·         Rhianon Passmore AC;

·         Siân Gwenllian AC.

 

</AI2>

<AI3>

2       Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi

·         Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymunedau

 

2.2. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu:

·         Ffigurau bras yn dangos sut y bydd cronfa etifeddiaeth Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei rhannu rhwng awdurdodau lleol gan ddangos hefyd sut y cafodd y ffigurau eu dadansoddi;

·         Nodyn am lwyddiant Cymru ym maes trechu tlodi o’i chymharu â gwledydd eraill, a’r Alban yn benodol;

·         Esboniad o fanylion y drefn adrodd yng nghyswllt y dangosyddion statudol a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru);

·         Nodyn ar y data a ddefnyddiwyd i werthuso llwyddiant Cymunedau yn Gyntaf ac i gynllunio’r cyfnod pontio a’r dull newydd o weithredu, gan gynnwys y dangosyddion presennol a’r dangosyddion a ddefnyddir yn y dyfodol.

</AI3>

<AI4>

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4

3.1.      Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI4>

<AI5>

4       Craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - trafod y dystiolaeth o dan eitem 2

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

</AI5>

<AI6>

5       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2

5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Steve Thomas, Prif Weithredwr, Llywodraeth Leol Cymru,

·         Jonathan Lloyd, Pennaeth Cyflogaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

</AI6>

<AI7>

6       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3

6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Dr Stephen Monaghan, Cadeirydd Is-bwyllgor Deddfwriaeth Cyngor BMA Cymru

·         Mr Andrew Cross, Ysgrifennydd Cynorthwyol, BMA Cymru

·         Peter Meredith-Smith, Cyfarwyddwr Cyswllt

·         Lisa Turnbull, Cynghorwr Polisi a Materion Cyhoeddus, y Coleg Nyrsio Brenhinol

·         Lien Watts, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol

</AI7>

<AI8>

7       Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 4

7.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Margaret Thomas, Is-lywydd, TUC Cymru

·         Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru

</AI8>

<AI9>

8       Papurau i’w nodi

</AI9>

<AI10>

8.1   Gohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn graffu ar 2 Chwefror 2017

8.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y materion a godwyd yn y sesiwn graffu ar 2 Chwefror 2017.

</AI10>

<AI11>

8.2   Gwybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

8.2. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

</AI11>

<AI12>

9       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

9.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI12>

<AI13>

10   Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5, 6 a 7

10.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5, 6 a 7.

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>